- Tudalen gartref >
- Adnoddau Addysgol
Ennyn brwdfrydedd plant a phobl ifanc
Mae’r cymeriadau hoffus Creature Comforts™ (a gafodd eu creu gan
gwmni animeiddio Aardman Animations sydd wedi ennill gwobr Oscar am
eu gwaith), yn rhoi’r un bywyd a hiwmor i’r deunyddiau â rhai'r Côd
Cefn Gwlad gwreiddiol. Maen nhw’n ennyn brwdfrydedd plant a phobl
ifanc ac yn eu hannog i ddysgu mwy. Yn y deunyddiau, mae ci defaid
yn sôn am y gofid mae perchnogion sy’n methu cadw eu cŵn ar dennyn
yn ei achosi i fywyd gwyllt. Mae ceffyl yn ein hannog i ‘fod yn
barod’, ac mae gwylanod môr yn ein hatgoffa i drin cefn gwlad fel y
bydden ni'n trin ein cartrefi ein hunain.
Nid dim ond ennyn diddordeb plant a phobl ifanc yn eu gwaith y
mae’r dull yma o weithredu. Mae hefyd yn atgyfnerthu pa mor bwysig
yw bod yn gyfrifol. Trwy roi sylw i’r pethau sy’n bwysig i bobl
ifanc – mynd allan i gael hwyl ac antur! – maen nhw’n fwy tebygol o
wneud rhywbeth i ddangos eu bod nhw’n poeni am ddyfodol cefn gwlad.
Yn wir, mae gwaith ymchwil ynglŷn â’r ‘profiadau arwyddocaol mewn
bywyd’ sy’n diffinio’n cyswllt ni â’r amgylchedd naturiol, a'r
agweddau a’r gwerthoedd sy’n bwysig i ni, yn dangos mai cyswllt
uniongyrchol ymarferol a chadarnhaol yw’r un mwyaf effeithiol
(SCYA, 2004).
Gweler Hefyd...
Y cysylltiadau â’r Cwricwlwm Cymreig
2008
Cynorthwyo athrawon
Defnyddio’r adnodd