Mwynhewch

Seagull

Mae’r uned yma’n cynnig cyfleoedd i ddisgyblion werthfawrogi a dysgu am gefn gwlad trwy wneud gweithgareddau creadigol yn yr ystafell ddosbarth. Mae cynllun manwl ar gyfer pob un o'r gweithgareddau i'r athro ei ddefnyddio, a thaflenni gwaith ar gyfer y disgyblion. Ymhlith y gweithgareddau yn yr adran yma:

Posteri Ddoe a Heddiw

Dylunio, creu a gwerthuso posteri i hybu’r Côd Cefn Gwlad
Oedran: disgyblion 7-11 oed
Maint y grwp: Grwpiau bach
Lleoliad: Dan do

Sylwadau Bachog

Creu a recordio sylwadau bachog sy’n creu darlun o wahanol themâu'r Côd Cefn Gwlad
Oedran: disgyblion 7-11 oed
Maint y grwp: Grwpiau bach
Lleoliad: Dan do

Beth Ddigwyddodd?

Creu a pherfformio darn chwarae rôl sydd wedi’i seilio ar gymeriadau Aardman Animations y Côd Cefn Gwlad
Oedran: disgyblion 7-11 oed
Maint y grwp: Grwpiau bach
Lleoliad: Dan do