Diogelwch

pony

Cynnig cyfleoedd i ddisgyblion ddysgu am gefn gwlad yn eu hystafell ddosbarth eu hunain y mae'r gweithgareddau yn yr uned yma. Maen nhw'n eu hannog i ymchwilio i effaith pobl ar yr amgylchedd, i drafod yr effeithiau ac i ffurfio barn. Byddan nhw hefyd yn ystyried gwahanol farn a safbwyntiau pobl eraill. Mae cynllun manwl ar gyfer pob un o'r gweithgareddau i'r athro ei ddefnyddio, a thaflenni gwaith ar gyfer y disgyblion. Ymhlith y gweithgareddau yn yr adran yma:

Rhowch Drefn ar y Cardiau!

Defnyddio gweithgaredd didoli cardiau i gategoreiddio rheolau'r Côd Cefn Gwlad yn ôl themâu priodol

Oedran: disgyblion 11-14 oed
Maint y grwp: Grwpiau bach
Lleoliad: Dan do

Rheolau Sylfaenol

Trafod y rheolau a sut mae ymddwyn yn gyfrifol wrth fynd i gefn gwlad

Oedran: disgyblion 11-14 oed
Maint y grwp: Unigolion, parau, grwpiau o bedwar a'r dosbarth cyfan
Lleoliad: Dan do

Beth yw’ch Barn?

Paratoi a gwneud arolwg i ofyn am farn pobl ynglyn â chefn gwlad

Oedran: disgyblion 11-14 oed
Maint y grwp: Grwpiau o bedwar a gwaith dilynol gan unigolion
Lleoliad: Dan do

Hawl i Grwydro?

Trafod gwahanol agweddau ar fynediad i gefn gwlad a defnyddio tir

Oedran: disgyblion 11-14 oed
Maint y grwp: Parau, grwpiau o bedwar a'r dosbarth cyfan
Lleoliad: Dan do

Hawl i Holi

Archwilio gwrthdaro yng nghefn gwlad trwy chwarae rôl

Oedran: disgyblion 11-14 oed
Maint y grwp: Grwpiau bach a’r dosbarth cyfan
Lleoliad: Dan do