- Tudalen gartref >
- Adnoddau Addysgol >
- Cyfnod Allweddol 3 >
- Respect
Parchwch

Pwyslais y gweithgareddau yma yw rhoi cyfle i ddisgyblion
archwilio’r awyr agored a dysgu amdano. Maen nhw’n cynnig cyfleoedd
i ddisgyblion wneud gwaith maes mewn amryw o wahanol leoliadau, er
enghraifft, parc yn yr ardal, cornel fywyd gwyllt yr ysgol,
gwarchodfa natur leol, ac ati. Mae’r disgyblion yn cael eu hannog i
gofnodi’r pethau maen nhw’n eu gweld, eu trafod gyda’i gilydd ac i
ddod i gasgliadau. Mae cynllun manwl ar gyfer pob un o'r
gweithgareddau i'r athro ei ddefnyddio, a thaflenni gwaith ar gyfer
y disgyblion. Ymhlith y gweithgareddau yn yr adran yma:
Byddwch yn Barod
Trafod a blaenoriaethu’r pethau pwysig i’w cymryd ar drip i gefn
gwlad
Oedran: disgyblion 11-14 oed
Maint y grwp: Grwpiau bach a’r dosbarth cyfan
Lleoliad: Dan do (fel gwaith paratoi ar gyfer gwaith maes yn yr
awyr agored)
Helfa Rhywogaethau
Defnyddio cwadrat i astudio dau leoliad ac i gofnodi’r
rhywogaethau o blanhigion sydd yno
Oedran: disgyblion 11-14 oed
Maint y grwp: Parau neu grwpiau o bedwar
Lleoliad: Yn yr awyr agored
Mapio’r Maes
Defnyddio mapiau i ddod o hyd i leoliadau yng nghefn gwlad, a
chymharu’r cyfleusterau sydd yno
Oedran: disgyblion 11-14 oed
Maint y grwp: Parau
Lleoliad: Yn yr awyr agored, a gwaith dilynol dan do wedyn
Llwybrau Llwyddiannus
Sylwi ar y nodweddion wrth gerdded yng nghefn gwlad, a’u
cofnodi
Oedran: disgyblion 11-14 oed
Maint y grwp: Unigolion neu barau
Lleoliad: Yn yr awyr agored a dan do hefyd
Treulio’n Ddim
Mesur lled a dyfnder yr erydu ar lwybr
Oedran: disgyblion 11-14 oed
Maint y grwp: Parau neu grwpiau o bedwar
Lleoliad: Yn yr awyr agored, a gwaith dilynol dan do wedyn