Y cysylltiadau â’r Cwricwlwm Cymreig 2008

Cafodd Darganfod yr Amgylchedd ei greu i ennyn diddordeb pobl yn yr awyr agored am weddill eu hoes, ac i barchu’r adnoddau sydd ynddo’r ydyn ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw. Mae’n cynnig cyd-destun cyffrous ar gyfer datblygu dewis helaeth o'r sgiliau sydd dan sylw yng Nghwricwlwm Cymreig 2008 ym meysydd Saesneg, Cymraeg, Gwyddoniaeth, Daearyddiaeth, ABCh ac AG, a hefyd cwricwlwm Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF). Mae set gyfan o ddeunyddiau ar gyfer y Cyfnod Sylfaen newydd ynddo, i ddiwallu anghenion dysgwyr ifanc iawn a'u hathrawon.

Ysbryd yr adnodd yw prif neges y Côd Cefn Gwlad: Parchwch, Diogelwch, Mwynhewch. Mae plant a phobl ifanc yn cael eu hannog i deimlo'n gyfrifol am yr amgylchedd a chefn gwlad; i ddarganfod a chael profiad uniongyrchol o drysorau’r amgylchedd; ac i werthfawrogi y gallwn ni golli llawer iawn heb ddiogelu, parchu a mwynhau’r amgylchedd.

Cyfres o weithgareddau sydd yn yr adnodd. Fe gawson nhw eu creu i wneud y gorau o’r cyfleoedd dysgu sy’n dod yn sgil addysg ymarferol yn yr awyr agored. Eu nod yw annog plant a phobl ifanc i feddwl yn feirniadol ac i ddeall y cysylltiadau rhwng eu dewisiadau nhw a’u heffaith ar fyd natur a phobl eraill.

Gweler Hefyd...

Ennyn brwdfrydedd plant a phobl ifanc

Cynorthwyo athrawon

Defnyddio’r adnodd