Rydym yn defnyddio cwcis er mwyn gwella eich profiad o ddefnyddio ein gwefan. Ni chedwir gwybodaeth bersonol o gwbl. Os gwnewch chi barhau heb newid eich gosodiadau cwcis, byddwn yn tybio eich bod yn fodlon derbyn yr holl gwcis ar y wefan. I gael mwy o wybodaeth am ein cwcis, darllenwch ein datganiad preifatrwydd.



Buddsoddwyr Mewn Pobl

Mae’r Cyngor Cefn Gwlad yn cydnabod mai ei weithwyr yw ei ased mwyaf gwerthfawr. Yn ystod 2004, fe wnaethom ni ennill statws fel Buddsoddwr mewn Pobl (BmP).

Yn ddiweddar, cawsom ein hasesu, a llwyddasom i ddal ein gafael ar y safon BmP. Golyga hyn ein bod yn bodloni’r dangosyddion mwyaf llym sy’n arwydd o’n hymrwymiad i wella ein perfformiad fel corff trwy fuddsoddi yn y dasg o ddysgu a datblygu ein staff. Proses barhaus yw hon, ac rydym yn gweithio’n galed i gynnal ein statws BmP. Hefyd, rydym yn chwilio’n barhaus am ffyrdd o wella ein perfformiad.