Rydym yn defnyddio cwcis er mwyn gwella eich profiad o ddefnyddio ein gwefan. Ni chedwir gwybodaeth bersonol o gwbl. Os gwnewch chi barhau heb newid eich gosodiadau cwcis, byddwn yn tybio eich bod yn fodlon derbyn yr holl gwcis ar y wefan. I gael mwy o wybodaeth am ein cwcis, darllenwch ein datganiad preifatrwydd.



Datganiad cyfrinachedd/gwadiad

Er mwyn cael ffydd yn y broses o gyfrannu gwybodaeth breifat i Gyngor Cefn Gwlad Cymru (“CCGC”) drwy ffurflenni, cofrestriadau neu geisiadau ar-lein mae angen sicrwydd, ac mae’r un peth yn wir am gyfrannu i Flog CCGC. Yr hyn sy’n bwysig i ni, pan fyddwch yn dewis gwneud hyn, yw bod eich preifatrwydd yn gwbl ddiogel a’n bod ninnau’n ymddwyn mewn ffordd glir a chyfrifol. Mae diogelu eich gwybodaeth bersonol yn hollbwysig i ni.

Mae’r datganiad preifatrwydd hwn yn amlinellu sut rydym yn defnyddio ac yn diogelu unrhyw wybodaeth bersonol a roddwch i ni pan fyddwch yn defnyddio http://www.countrysidecodewales.org.uk (“gwefan Côd Cefn Gwlad”) neu ‘Ein Golygfa’ (“Blog CCGC”). Mae defnyddwyr Blog CCGC hefyd yn ddarostyngedig i Delerau ac Amodau Blog CCGC [cliciwch ar y ddolen gyswllt i’w hagor]. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglyn â’r datganiad hwn neu os nad ydych yn cytuno ag ef, cysylltwch â’r prif olygydd gwe drwy anfon e-bost i webeditor@ccw.gov.uk cyn defnyddio gwefan Côd Cefn Gwlad, gan gynnwys Blog CCGC.

Gall y datganiad preifatrwydd hwn gael ei newid ar unrhyw adeg a cheidw CCGC yr hawl i wneud newidiadau fel y gwêl orau. Os bydd unrhyw newidiadau’n cael eu gwneud i’r datganiad preifatrwydd, byddwn yn rhoi fersiwn wedi ei ddiweddaru o’r datganiad preifatrwydd yn y blog hwn ac ar wefan Côd Cefn Gwlad. Mae CCGC yn argymell eich bod yn adolygu’r datganiad hwn yn rheolaidd er mwyn sicrhau eich bod yn ymwybodol bob amser o’r wybodaeth yr ydym yn ei chasglu a sut y bydd yn cael ei defnyddio gan CCGC ac unrhyw drydydd parti y mae’n ofynnol i ni ddatgelu gwybodaeth iddo yn unol â thelerau’r datganiad hwn.

Mae’r polisi hwn yn weithredol o 3 Mai 2010 ymlaen.

  1. Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu?
  2. Beth rydym yn ei wneud â’r wybodaeth rydym yn ei chasglu?
  3. Gyda phwy rydym yn rhannu’r wybodaeth hon?
  4. Sut i gael copïau o’r wybodaeth rydym wedi ei chasglu neu ei newid
  5. Diogelwch
  6. Dolenni cyswllt
  7. Cwcis

1. Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu?

1.1 Yn gyffredinol, gallwch ddefnyddio’r wefan hon heb roi gwybodaeth i ni. Fodd bynnag, mae rhai gwasanaethau ychwanegol, er enghraifft defnyddio Blog CCGC, na fyddant ar gael o bosibl i chi onid oes gennym wybodaeth benodol amdanoch.

1.2 Gallwn gasglu’r wybodaeth a ganlyn:

  • [eich enw a manylion cysylltu, gan gynnwys cyfeiriad ebost (a manylion cwmni)];
  • [gwybodaeth ynglyn â’ch diddordebau personol neu broffesiynol, demograffeg, profiadau gyda’n cynnyrch a sut y byddai’n well gennych i ni gysylltu â chi er mwyn darparu rhagor o ohebiaeth i chi ynglyn â’n cynnyrch a’n gwasanaethau.]

2. Beth rydym yn ei wneud â’r wybodaeth rydym yn ei chasglu?

2.1 Byddwn yn sicrhau bod unrhyw wybodaeth neu ddata sy’n cael eu casglu gan CCGC yn cael eu storio mewn cronfeydd data sy’n eiddo i CCGC yn unig a neb arall.

2.2 Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i ddarparu gwell gwasanaeth i chi, ac yn fwyaf arbennig er mwyn gwneud y canlynol:

  • cadw cofnodion mewnol;
  • gwella’n gwasanaethau a chynllunio ar gyfer datblygiadau ar safleoedd yn y dyfodol;
  • monitro’r defnydd o’r wefan;
  • anfon negeseuon ebost atoch, yn ddarostyngedig i Delerau ac Amodau defnyddio Blog CCGC, i ddibenion gweinyddu Blog CCGC; neu
  • anfon copïau atoch o gylchlythyr electronig CCGC, os dywedasoch eich bod yn awyddus i dderbyn cylchlythyrau o’r fath pan ofynnwyd y cwestiwn hwnnw i chi.

2.3 Gallwn gysylltu â chi drwy ebost, dros y ffôn neu drwy’r post.

3. Gyda phwy rydym yn rhannu’r wybodaeth hon?

Ni fyddwn yn trosglwyddo, datgelu, gwerthu, dosbarthu na phrydlesu eich gwybodaeth bersonol i unrhyw drydydd parti oni bai ein bod wedi cael caniatâd gennych neu ei bod yn ofynnol inni wneud hynny yn unol â’r gyfraith. Gallwn ryddhau eich gwybodaeth bersonol i’n hasiantau marchnata uniongyrchol awdurdodedig neu asiantau eraill oni bai eich bod yn dweud wrthym nad ydych yn dymuno i hyn ddigwydd.

4. Sut i gael copïau o’r wybodaeth rydym wedi ei chasglu neu ei newid

4.1 Gallwch ofyn am fanylion am wybodaeth bersonol rydym yn ei chadw amdanoch dan Ddeddf Diogelu Data 1998. Bydd angen talu ffi fechan. Os hoffech gael copi o’r wybodaeth a gedwir amdanoch ysgrifennwch at ein Swyddog Cydymffurfio Diogelu Data yn y cyfeiriad isod:

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd LL57 2DW

Neu, anfonwch eich cais mewn e-bost at enquiries@ccw.gov.uk.

4.2 Os ydych yn meddwl bod unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch yn anghywir neu’n anghyflawn, anfonwch lythyr neu e-bost atom cyn gynted ag y bo modd. Byddwn yn cywiro neu’n diweddaru unrhyw wybodaeth cyn gynted ag y bo modd.

5. Diogelwch

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddiogel. Er mwyn atal mynediad at wybodaeth heb ganiatâd, neu ddatgelu gwybodaeth heb ganiatâd rydym wedi cyflwyno trefniadau ffisegol, electronig a rheolaethol i ddiogelu a gwarchod yr wybodaeth a gesglir gennym ar-lein.

6. Dolenni Cyswllt

Gallwn ddefnyddio dolenni cyswllt i gysylltu â gwefannau eraill nad ydynt dan ein rheolaeth, er enghraifft, yn yr erthyglau ac fel adnodd ar ddiwedd llawer o dudalennau a phenodau ar y safle. Ar ôl i chi adael gwefan CCGC, ni all CCGC fod yn gyfrifol am ddiogelwch a phreifatrwydd unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych. Dylech gymryd gofal ac edrych ar y datganiad preifatrwydd sy’n berthnasol i’r wefan dan sylw.

7. Beth yw cwci?

Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon. Darn bach o destun sy’n cael ei storio ar eich cyfrifiadur, neu ddyfais arall rydych yn ei defnyddio i syrffio’r Rhyngrwyd yw cwci. Maent yn cael eu defnyddio am nifer o resymau, ond eu prif bwrpas yw storio gwybodaeth amdanoch chi ar eich cyfrifiadur.

Rydym yn eich annog i dderbyn y cwcis sy’n cael eu defnyddio gan ein gwefan gan eu bod yn ein helpu i wella’r profiad rydych chi a llawer o bobl eraill yn ei gael fel defnyddwyr.

7.1 Pan fyddwch yn ymweld â’n gwefan, bydd ein gweinydd gwe yn siarad yn uniongyrchol â’ch porwr gwe chi, er mwyn arddangos a darparu gwybodaeth yn gywir. Mae hefyd yn tagio’r porwr â gwybodaeth am eich ymweliad ac mae’r porwr yn ei dro yn cadw’r wybodaeth hon mewn ffeil destun sylfaenol.

7.2 Pa bryd bynnag y byddwch yn dewis dychwelyd i http://www.ccgc.gov.uk bydd yr wybodaeth yn cael ei hanfon yn ôl at weinydd CCGC bob tro y bydd eich porwr yn gofyn am dudalen, ac yn ‘siarad’ â’r gweinydd.

7.3 Mae cwcis yn rhoi gwybodaeth gyffredinol bwysig i ni am ymddygiad ein defnyddwyr wrth ddefnyddio’n gwefan – pa feysydd y maent yn mwynhau ymweld â hwy, pa wasanaethau y maent yn eu defnyddio’n aml, ac yn y blaen.

7.4 Nid yw gwybodaeth sensitif, fel rhifau ffôn neu gyfeiriadau ebost, yn cael ei storio yn y cwcis hyn.

7.5 Mae’r rhan fwyaf o’r porwyr gwe’n derbyn cwcis yn ôl rhagosodiad. Fodd bynnag, os ydych yn teimlo’n anghyfforddus ynglyn â chwcis, mae’n bosibl y gallwch ofyn i’ch porwr gwe wrthod pob cwci neu adael i chi wybod pan fydd cwci’n cael ei anfon i’ch cyfrifiadur chi. Gallwch wedyn ddewis a ydych am dderbyn y cwci ai peidio.

7.6 Bydd CCGC yn diweddaru’r telerau hyn os bydd y polisi cwcis yn cael ei newid a’i addasu. Dylech geisio ymweld â’r dudalen hon o bryd i’w gilydd, er mwyn adolygu’r telerau sefydlog gan eich bod wedi eich rhwymo iddynt fel defnyddiwr.

7.7 Y cwcis rydym yn eu defnyddio yw:

Cwcis sesiwn

Ffeiliau cwcis dros dro yw cwcis sesiwn, ac maent yn cael eu dileu pan fyddwch yn cau eich porwr. Pan fyddwch yn ailgychwyn eich porwr ac yn mynd yn ôl i’r safle a greodd y cwci, ni fydd y wefan yn eich adnabod. Bydd yn rhaid i chi logio i mewn eto (os oes angen logio i mewn) neu ddewis eich dewisiadau/themâu eto os yw’r safle’n defnyddio’r nodweddion hyn. Bydd cwci newydd yn cael ei gynhyrchu er mwyn storio eich gwybodaeth bori, a bydd yn weithredol nes byddwch yn gadael y safle ac yn cau eich porwr.

Cwcis sesiwn sy’n cael eu defnyddio ar wefan Côd Cefn Gwlad
Cwci Enw / Dod i ben Pwrpas Mwy o wybodaeth
Cwci maint ffont ASP.NET_SessionId [Yn dod i ben pan fo’r darllenwr yn cau’r porwr] Mae’r cwci hwn yn storio newidion sy’n gysylltiedig â’ch dewis o faint ffont [gweler cwcis parhaol isod]. Nid yw’n storio gwybodaeth bersonol. Mae’r cwci’n cael ei greu cyn gynted ag y byddwch yn ymweld â’n gwefan, ac mae’n storio dynodwr unigryw ar gyfer eich sesiwn. Mae’r sesiwn hwn yn dod i ben cyn gynted ag y byddwch yn gadael y wefan. Ewch i wefan Microsoft i gael mwy o wybodaeth.
Cwci dadansoddeg gwe SiteAnalyze ASP.NET_SessionId [Yn dod i ben pan fo’r darllenwr yn cau’r porwr] Defnyddir y cwci hwn er mwyn olrhain y gyfres o dudalennau y mae ymwelydd yn edrych arnynt yn ystod ymweliad â’r safle. Gellir defnyddio’r wybodaeth hon i leihau siwrneiau defnyddiwr, a galluogi ymwelwyr i ddod o hyd i wybodaeth yn gyflymach. Ewch i safle Microsoft i gael mwy o wybodaeth.

Cwcis parhaol

Mae cwcis parhaol yn helpu gwefannau i gofio eich gwybodaeth a’ch gosodiadau ar gyfer ymweliadau yn y dyfodol. Bydd hyn yn arwain at fynediad cyflymach a hwylusach, er enghraifft, drwy beidio â gorfod logio i mewn eto.

Yn ogystal â dilysu, mae cwcis parhaol yn galluogi’r nodweddion a ganlyn ar wefan: dewis iaith, dewis thema, dewisiadau o ddewislen, nod tudalen mewnol ar safle neu ffefrynnau, a llawer mwy. Ar eich ymweliad cyntaf, cyflwynir y wefan yn y modd rhagosodedig. Yn ystod eich ymweliad, byddwch yn dewis yr hyn sydd orau gennych a bydd y dewisiadau hyn yn cael eu cofio, drwy ddefnyddio’r cwci parhaol, y tro nesaf y byddwch yn ymweld â’r safle.

Er enghraifft, efallai y bydd cynnwys gwefan ar gael mewn gwahanol ieithoedd. Ar eich ymweliad cyntaf, efallai y byddwch yn dewis cael y cynnwys yn Gymraeg a bydd y safle’n cofnodi’r dewis hwnnw mewn cwci parhaol sy’n cael ei osod ar eich porwr. Y tro nesaf y byddwch yn ymweld â’r safle hwnnw bydd yn defnyddio’r cwci i sicrhau bod y cynnwys yn cael ei ddangos yn Gymraeg. Mae cwci parhaol yn galluogi gwefan i’ch cofio chi bob tro y byddwch yn ymweld â hi, gan gyflymu neu wella eich profiad o wasanaethau neu swyddogaethau sy’n cael eu cynnig.

Cwcis parhaol sy’n cael eu defnyddio ar wefan Côd Cefn Gwlad
Cwci Enw / Dod i ben Pwrpas Mwy o wybodaeth
Dewis cyferbynnedd StylePicker:colours [Yn dod i ben ar ôl blwyddyn] Os byddwch yn defnyddio’n dewisiadau panel hygyrchedd ac yn dewis eich hoff gyferbynnedd lliw, bydd ein gwefan yn gosod cwci ar eich dyfais. Bob tro y byddwch yn ymweld â’n gwefan wedyn, bydd yn dewis eich hoff gyferbynnedd lliw yn awtomatig. Ceir manylion llawn am unrhyw gwcis a ddefnyddir gennym a’n datganiad preifatrwydd ar y dudalen we hon.
Dewis maint ffont StylePicker:fontsize [Yn dod i ben ar ôl blwyddyn] Os byddwch yn defnyddio’n dewisiadau panel hygyrchedd ac yn dewis maint testun rydych yn ei hoffi, bydd ein gwefan yn gosod cwci ar eich dyfais. Bob tro y byddwch yn ymweld â’n gwefan wedyn, bydd yn dewis y maint testun rydych yn ei hoffi yn awtomatig. Ceir manylion llawn am unrhyw gwcis a ddefnyddir gennym a’n datganiad preifatrwydd ar y dudalen we hon.
Dewis iaith lang [Yn dod i ben ar ôl blwyddyn] Ar ôl y tro cyntaf iddynt ymweld â’n safle gall darllenwyr ddewis ym mha iaith y maent am weld y cynnwys [Cymraeg neu Saesneg]. Gall darllenwyr hefyd newid iaith ar unrhyw adeg wrth lywio o gwmpas y safle, gan gynnwys y mapiau gwe. Mae’r cwci hwn yn cofio’r dewis iaith hwnnw, ac yn dangos yr iaith a ddewiswyd yn awtomatig pan fo’r darllenwr yn dychwelyd i safle CCGC yn ystod sesiwn. Ceir manylion llawn am unrhyw gwcis a ddefnyddir gennym a’n datganiad preifatrwydd ar y dudalen we hon.
Cwci dadansoddeg gwe SiteAnalyze nmstat [Yn dod i ben ar ôl 1,000 o ddiwrnodau] Defnyddir y cwci hwn i helpu i gofnodi eich defnydd o’r wefan hon. Mae’n casglu ystadegau am y defnydd o’r safle, er enghraifft, pryd oedd y tro diwethaf i chi ymweld â’r safle. Defnyddir yr wybodaeth hon wedyn i wella profiad y defnyddiwr ar ein gwefan. Mae’r cwci’n cynnwys dynodwr a gynhyrchir ar hap sy’n cael ei ddefnyddio i adnabod eich porwr pan fyddwch yn darllen tudalen. Nid yw’r cwci’n cynnwys gwybodaeth bersonol a dim ond i ddibenion dadansoddeg gwe y mae’n cael ei ddefnyddio. Bydd y cwci hwn yn dod i ben 1,000 o ddiwrnodau ar ôl eich ymweliad diwethaf. Ceir manylion llawn am unrhyw gwcis a ddefnyddir gennym a’n datganiad preifatrwydd ar y dudalen we hon.
Dadansoddeg gwefannau ACOOKIE [Yn dod i ben ar ôl dwy flynedd]
WEBTRENDS_ID [Yn dod i ben ar ôl dwy flynedd]
Dyma’r cwcis sy’n gysylltiedig â’n hen ddarparwyr dadansoddeg gwe. Nid yw CCGC yn defnyddio’r gwasanaeth hwn mwyach ac mae’n tynnu’r cwcis hyn o’r safle. Drwy roi gwybodaeth [hyd at 2010] ynglyn â phryd roeddech yn defnyddio’n gwefan, roedd y cwcis tueddiadau gwe parti cyntaf hyn yn ein helpu ni i gael amcangyfrif cywir o nifer yr ymwelwyr â’r wefan a faint o ddefnydd oedd yn cael ei wneud ohoni. Roedd hyn yn ein galluogi i ddarparu’r gwasanaeth a oedd yn gweddu orau i anghenion ein darllenwyr. Ceir manylion llawn am unrhyw gwcis a ddefnyddir gennym a’n datganiad preifatrwydd ar y dudalen we hon.

7.8   I ddileu cwcis neu wrthod cwcis

Rydym yn argymell eich bod yn caniatáu’r cwcis sy’n cael eu gosod gan y wefan hon gan eu bod yn ein helpu i ddarparu gwell gwasanaeth.

Os nad ydych yn dymuno i’r wefan hon osod cwcis, dewiswch gosodiadau cwcis (cookie settings) dan y gosodiadau preifatrwydd yn newisiadau eich porwr, yna ychwanegwch ein parth ni at y rhestr o wefannau nad ydych yn dymuno cael cwcis ganddynt.

Dan gosodiadau (settings) gallwch hefyd ddileu cwcis unigol neu unrhyw gwcis sydd wedi cael eu storio gan eich porwr.

Gallwch gael mwy o wybodaeth ynglyn â sut i ddileu a rheoli cwcis yn AboutCookies.org Os ydych yn gosod eich porwr i wrthod cwcis, mae’n bosibl na fydd rhai gweithrediadau ar wefannau amrywiol eraill yn gweithio.

7.9   Mae gwybodaeth ychwanegol am gwcis ar gael ar nifer o wefannau: