Rydym yn defnyddio cwcis er mwyn gwella eich profiad o ddefnyddio ein gwefan. Ni chedwir gwybodaeth bersonol o gwbl. Os gwnewch chi barhau heb newid eich gosodiadau cwcis, byddwn yn tybio eich bod yn fodlon derbyn yr holl gwcis ar y wefan. I gael mwy o wybodaeth am ein cwcis, darllenwch ein datganiad preifatrwydd.



Telerau ac amodau

Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth berthnasol i ddefnyddio gwefannau’n gyffredinol, hawlfraint, materion firysau, cysylltu â gwefannau eraill a defnydd derbyniol o’r wefan. Mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol o’ch hawliau eich hun o ran yr hyn a gewch – ac na chewch – ei wneud ar wefan CCGC.

Mae CCGC yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth sy’n cael ei chyhoeddi ar y wefan hon yn ddiweddar a chywir ond ni all dderbyn unrhyw gyfrifoldeb cyfreithiol am unrhyw gamgymeriadau neu ddiffygion. Mae CCGC yn cadw’r hawl i wneud newidiadau heb rybudd.

Os dowch o hyd i unrhyw beth sy’n peri pryder cofiwch e-bostio golygydd y we [manylion ar y dudalen hon] neu gysylltu â ni trwy ein ffurflen ar-lein.

Hawlfraint
© CCGC/CCGC 2007

Gwarchodwyd hawlfraint y tudalennau hyn, os na fydd yn dweud yn wahanol. Caiff atgynhyrchu’r deunydd hwn ar unrhyw ffurf ei wahardd heb ganiatâd ysgrifenedig CCGC. Mae cyfraith Cymru a Lloegr yn berthnasol i gynnwys y wefan hon. Nid oes hawl defnyddio logo CCGC ar unrhyw ffurf heb ganiatâd ysgrifenedig. Dylid gwneud ceisiadau i ddefnyddio’r logo i:

Y Tîm Cyhoeddiadau
d/o Ymholiadau
Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Maes-y-ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW

Adroddiadau
© CCGC/CCGC 2007

Cewch ddefnyddio ac atgynhyrchu dogfennau ar y wefan hon yn ddi-dâl at ddibenion anfasnachol a busnes mewnol, heblaw lle nodwyd hawlfraint arall. Cewch ei atgynhyrchu ar unrhyw ffurf neu mewn unrhyw gyfrwng, ond i chi wneud hynny’n gywir, gan gydnabod y ffynhonnell a hawlfraint CCGC, a pheidio â’i ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol.

Fodd bynnag, nid oes hawl i ailddefnyddio, trosglwyddo na chyhoeddi unrhyw ddeunydd a nodwyd fel sensitif a chydgyfrinachol heblaw trwy dderbyn telerau trwydded CCGC yn llwyr.

Adroddiadau ymchwil a gomisiynwyd
© CCGC/CCGC 2007

Adroddiadau yw’r rhain ar ymchwil a gomisiynwyd gan GCGC. Fodd bynnag, nid yw’r sylwadau ac argymhellion a gyflwynwyd yn unrhyw adroddiadau a gomisiynwyd o reidrwydd yn cyd-fynd â rhai CCGC ac, felly, ni ddylid eu priodoli i GCGC.

Setiau data
© CCGC/CCGC 2007

Cewch atgynhyrchu setiau data ar y wefan hon yn ddi-dâl at ddibenion anfasnachol a busnes mewnol ar unrhyw ffurf neu mewn unrhyw gyfrwng, ond i chi wneud hynny’n gywir, gan gydnabod y ffynhonnell a hawlfraint CCGC, a pheidio â’u defnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. I osgoi defnyddio hen wybodaeth, argymhellwn eich bod yn cael y fersiwn diweddaraf o’r ffynhonnell wreiddiol.

Mapiau / tablau / delweddau
© CCGC/CCGC 2007

Ni chewch ailddefnyddio, trosglwyddo na chyhoeddi unrhyw ddeunydd a nodwyd fel sensitif a chydgyfrinachol heblaw trwy dderbyn telerau trwydded CCGC yn llwyr.

Materion Firysau

Mae CCGC yn gwneud pob ymdrech i chwilio am firysau mewn gwybodaeth sydd ar gael i’w lawrlwytho o’r wefan hon. Ni all dderbyn CCGC cyfrifoldeb am unrhyw golled neu niwed all ddigwydd o ddefnyddio deunydd a lawrlwythwyd. Rydym yn argymell bod defnyddwyr yn cadarnhau eto holl ddeunyddiau a lawrlwythwyd gyda’u meddalwedd chwilio am firysau eu hunain.

Gwefannau Pobl Eraill

Fel gwasanaeth i chi, fe all CCGC ddarparu cysylltau, ar y wefan hon, â gwefannau sy’n cael eu rhedeg gan endidau eraill. Os byddwch yn defnyddio’r gwefannau hyn, byddwch yn gadael gwefan CCGC. Os penderfynwch ymweld ag unrhyw wefan gysylltiedig, rydych yn gwneud hynny ar eich cyfrifoldeb eich hun a’ch cyfrifoldeb chi yw cymryd holl fesurau amddiffynnol i warchod yn erbyn firysau neu elfennau dinistriol eraill. Nid yw CCGC yn rhoi unrhyw warant nac unrhyw achos dros, nac yn cymeradwyo, unrhyw wefannau cysylltiedig na’r wybodaeth sy’n ymddangos arnynt nac unrhyw gynhyrchion neu wasanaethau sy’n cael eu disgrifio ynddynt. Nid yw cysylltau’n awgrymu bod CCGC yn cymeradwyo, mewn cyswllt neu’n gysylltiedig â, nac wedi’i awdurdodi’n gyfreithiol i ddefnyddio unrhyw nod masnach, enw masnachol, logo na symbol hawlfraint a arddangosit yn neu ar gael trwy’r cysylltau, neu fod gan unrhyw safle cysylltiedig awdurdod i ddefnyddio unrhyw nod masnach, enw masnachol, logo neu symbol hawlfraint sy’n perthyn i CCGC.

Adolygiadau

Gall CCGC adolygu’r telerau hyn ar unrhyw adeg trwy ddiweddaru’r hysbysiad hwn. Y cyngor yw eich bod yn ymweld â’r dudalen hon o bryd i’w gilydd i adolygu telerau cyfredol oherwydd eu bod yn gyfrwymol arnoch chi. Fe all rhybuddion cyfreithiol neu delerau a ddynodwyd yn benodol ar dudalennau arbennig ar wefan CCGC ddisodli rhai o ddarpariaethau’r telerau hyn.